![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/38/Pf%25C3%25A4rrenbach_Wandmalerei_Hl_Gallus.jpg_%2528cropped%2529.jpg/640px-Pf%25C3%25A4rrenbach_Wandmalerei_Hl_Gallus.jpg_%2528cropped%2529.jpg&w=640&q=50)
Sant Gall
cyfansoddwr a aned yn 550 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Sant Gwyddelig oedd Sant Gall, Gallen, neu Gallus (c. 550 - c. 646). Roedd yn ddisgybl i Sant Columbanus, ac aeth gydag ef ar ei daith efengylu i'r cyfandir. Pan aeth Columbanus ymlaen i'r Eidal yn 612, gorfodwyd Gall gan afiechyd i aros ar ôl yn y tiriogaethau sy'n awr yn ffurfio'r Swistir. Bu'n byw fel meudwy yn y goedwig i'r de-orllewin o'r Bodensee, ger tarddle Afon Steinach. Bu farw tua 646-650 yn Arbon, a dethlir ei ŵyl ar 16 Hydref.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/38/Pf%C3%A4rrenbach_Wandmalerei_Hl_Gallus.jpg_%28cropped%29.jpg/640px-Pf%C3%A4rrenbach_Wandmalerei_Hl_Gallus.jpg_%28cropped%29.jpg)
Wedi iddo farw, adeiladwyd eglwys fechan, a ddatblygodd yn Abaty Sant Gall, a roddodd ei enw i ddinas St. Gallen. Ysgrifennwyd nifer o fucheddau iddo o'r 9g ymlaen.