From Wikipedia, the free encyclopedia
Coleg yn dysgu trwy gyfrwng Gaeleg ar ynys An t-Eilean Sgitheanach (Skye) yn Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Sabhal Mòr Ostaig (yn llythrennol, "Beudu Mawr Ostaig"). Mae bellach yn rhan o strwythur Prifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd yr Alban, (Gaeleg: Prifysgol na Gàidhealtachd a nan Eilean).
Math | coleg |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 57.087°N 5.872°W |
Saif y coleg ar benrhyn Sleat, tua 3 km i'r gogledd o Armadale. O dref Mallaig ar y tir mawr (a gwasanaeth rheilffordd i Glasgow) mae fferi i Armadale. Mae hefyd gampws ar ynys Islay, a elwir yn Ionad Chaluim Chille Ìle a sefydlwyd yn 2002.
Sefydlwyd y coleg yn y 1970au gan Syr Iain Noble. Bu'r bardd Gaeleg Sorley MacLean ymhlith aelodau'r bwrdd rheolwyr cynnar, a dechreuodd y prifathro cyntaf, Farquhar MacLennan o Raasay, ar ei waith yn 1976. O 2002 ymlaen, dechreuodd y coleg gynnig graddau fel than o'r UHI Millennium Institute.
Cynhelir Darlithoedd Sabhal Mòr yma yn flynyddol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.