Rudolf Kjellén
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwyddonydd gwleidyddol a gwleidydd o Sweden oedd Johan Rudolf Kjellén (13 Mehefin 1864 – 14 Tachwedd 1922) sy'n nodedig am lunio damcaniaeth geidwadol y wladwriaeth ac am fathu'r gair daearwleidyddiaeth (Swedeg: geopolitik).
Rudolf Kjellén | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Johan Rudolf Kjellén ![]() 13 Mehefin 1864 ![]() Q10700467 ![]() |
Bu farw | 14 Tachwedd 1922 ![]() Uppsala domkyrkoförsamling ![]() |
Dinasyddiaeth | Sweden ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwyddonydd gwleidyddol, academydd, gwleidydd, daearyddwr ![]() |
Swydd | Q18342962, member of the First Chamber, member of the Second Chamber ![]() |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Q111104528, National Party, Q111103693 ![]() |
Plant | Ruth Kjellén-Björkquist ![]() |
Ganwyd yn Torsö, ynys yn llyn Vänern. Astudiodd ym Mhrifysgol Uppsala, ac addysgodd ym mhrifysgolion Göteborg o 1891 i 1916 ac Uppsala o 1916.
Ysgrifennodd Kjellén sawl gwaith sy'n ymdrin yn systematig â'r wladwriaeth fodern drwy ei hystyried yn system organig sy'n ffynnu ac yn dirywio. Yn ogystal â'r term geopolitik, sy'n disgrifio'r problemau a'r amodau o ganlyniad i ddaearyddiaeth y wladwriaeth, fe fathodd hefyd y termau oecopolitik (y ffactorau economaidd sy'n effeithio ar rym y wladwriaeth) a demopolitik (elfennau ethnig y boblogaeth a'r problemau sy'n codi o'u herwydd).[1]
Yn ddiweddarach yn ei yrfa, dadansoddodd wahanol gyfansoddiadau cenedlaethol. Gwasanaethodd yn aelod o blaid geidwadol y Cynghrair Etholiadol Cyffredinol (Moderaterna heddiw) yn Is Siambr y Riksdag o 1905 i 1908 ac yn yr Uwch Siambr o 1911 i 1917.