![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/aa/L%2527Heure_Bretonne_-_23_mai_1942_-_Roparz_Hemon.jpg/640px-L%2527Heure_Bretonne_-_23_mai_1942_-_Roparz_Hemon.jpg&w=640&q=50)
Roparz Hemon
awdur Llydewig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Llenor ac ysgolhaig Llydewig oedd Roparz Hemon (18 Tachwedd 1900 – 29 Mehefin 1978). Ei enw swyddogol oedd Louis Paul Némo.
Roparz Hemon | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Pendaran ![]() |
Ganwyd | Louis Paul Némo ![]() 18 Tachwedd 1900 ![]() Brest ![]() |
Bu farw | 29 Mehefin 1978 ![]() Dulyn ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Addysg | agrégation ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | geiriadurwr, Esperantydd, bardd, ysgrifennwr ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | An Tri Boulomig Kalon Aour, Gwalarn ![]() |
Mam | Julie Foricher ![]() |
Ysgrifennodd nifer o eiriaduron, erthyglau, gramadegau, nofelau, cerddi a storïau byrion. Ef oedd sylfaenydd y cylchgrawn llenyddol Llydaweg Gwalarn, lle cyhoeddodd nifer o awduron ieuanc eu gweithiau cyntaf yn y 1920au a'r 1930au.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n cyfarwyddo rhaglenni Llydaweg ar Radio Roazhon Breizh, a ariannwyd gan y Propagandastaffel, gwasanaethau propaganda y Natsïaid. Yn y 40au heyd, bu'n golygu'r papur wythnosol Llydaweg Arvor. Ym mis Hydref 1942, cafodd ei ethol fel llywydd "Framm Keltiek Breizh" (Sefydliad Celtaidd Llydaw)" gant Leo Weisgerber, ieithydd Almaenig a oedd yn gweithio dros y Propagandastafell hefyd. Oherwydd hynny, a' erthyglau gwrth-semitig a fu yn y papur "Arvor", cafodd Hemon ei arestio ar gyhuddiad o gydweithredu â'r Natsïaid ar ôl y Rhyfel.
Ar ôl blwyddyn yn y carchar, cafodd gosb deng mlynedd o "dégradation nationale". Pendefynodd fynd i Iwerddon. Treuliodd ei fywyd mewn alltudiaeth yn Nulyn, yn gweithio yn y Dublin Institute for Advanced Studies. Nid aeth yn ôl i Lydaw erioed.