![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c5/Rondavies1998.jpg/640px-Rondavies1998.jpg&w=640&q=50)
Ron Davies
gwleidydd (1946- ) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Cymreig yw Ron Davies (ganwyd 6 Awst 1946). Caiff ei adnabod yn bennaf fel 'pensaer datganoli' gan mai ef, fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd yn Llywodraeth Lafur newydd Tony Blair, a lywiodd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 drwy Dŷ'r Cyffredin ar ôl i bobl Cymru bleidleisio o blaid datganoli mewn refferendwm ym 1997. Ef hefyd ddywedodd mai "proses yw datganoli, nid digwyddiad": roedd o'r farn ym 1997 wrth i Gymru bleidleisio dros Gynulliad y byddai angen cyfres o ddeddfau er mwyn trosglwyddo grymoedd i Gymru dros gyfnod o amser, ac na fyddai'r Cynulliad fel yr oedd ar y pryd yn ddigonol yn yr hirdymor.
- Erthygl am wleidydd yw hon. Am y ffotograffydd, gweler Ron Davies (ffotograffydd).
Ffeithiau sydyn Rhagflaenydd, Olynydd ...
Ron Davies | |
![]() | |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru | |
Cyfnod yn y swydd 3 Mai 1997 – 27 Hydref 1998 | |
Rhagflaenydd | William Hague |
---|---|
Olynydd | Alun Michael |
Aelod Seneddol dros Gaerffili | |
Cyfnod yn y swydd 1983 – 2001 | |
Aelod Cynulliad dros Gaerffili | |
Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1999 – 3 Mai 2003 | |
Geni | (1946-08-06) 6 Awst 1946 (77 oed) Machen, Cwm Rhymni |
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Tadogaethau gwleidyddol eraill |
Annibynnol (2003–2009) Y Blaid Lafur (DU) (hyd 2003) |
Alma mater | Polytechnig Portsmouth |
Cau