Ffisegydd o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffisegydd ac academydd o Gymru yw Syr Robert Hughes Williams CBE, FRS, FLSW (ganwyd 22 Rhagfyr 1941), a adnabyddir yn gyffredin fel Robin Williams. Mae'n arbenigo mewn ffiseg cyflwr solet a lled-ddargludyddion. Bu'n Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Abertawe o 1994 i 2003. Bu'n dysgu ym Mhrifysgol Newydd Ulster a Phrifysgol Cymru, Coleg Caerdydd, cyn ymuno ag Abertawe.[1][2][3]
Robin Williams | |
---|---|
Ganwyd | 22 Rhagfyr 1941 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ffisegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Marchog Faglor, CBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Ganwyd ar fferm fynyddig yn Llanuwchllyn, a cafodd ei addysg yn ysgol y pentref ac yn Y Bala cyn mynd i Brifysgol Bangor, lle y graddiodd mewn ffiseg.
Wedi gorffen ei Ddoethuriaeth, bu’n gweithio yn Iwerddon gyda chyfnodau yn yr Unol Daleithiau ac yn yr Almaen, cyn dychwelyd i Gymru yn Bennaeth yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd yn falch iawn o weld cynifer o fyfyrwyr Cymraeg yn ymuno â’r adran ac roedd bob amser yn barod i gynnig dosbarthiadau yn y Gymraeg i’r rhai oedd â diddordeb.
Ym 1990, etholwyd Williams yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS), academi genedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer y gwyddorau.[4] Yn 2010, cafodd ei ethol yn Gymrawd Sefydlol Cymdeithas Ddysgedig Cymru (FLSW).[5]
Fe'i penodwyd yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2004 am wasanaethau i addysg ac i'r gymuned yn Abertawe a'i urddo'n farchog yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2019 am wasanaethau i addysg uwch, ymchwil a'r iaith Gymraeg.
Yn 2022, derbyniodd Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol, “am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth”.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.