Rhewlifiant Andea-Saharaidd
rhewlifiant / From Wikipedia, the free encyclopedia
Digwyddodd y Rhewlifiad Andea-Saharaidd, un o'r 5 prif Oes Iâ, yn ystod y gorgyfnod Paleosöig: rhwng 450 a 420 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP): yn ystod y cyfnod Ordofigaidd a'r Silwraidd.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dechreuwyd ...
Enghraifft o'r canlynol | cyfnod rhewlifol ![]() |
---|---|
Dechreuwyd | Mileniwm 451. CC ![]() |
Daeth i ben | Mileniwm 421. CC ![]() |
Cau
Yn ystod y Rhewlifiant hwn, gwyddys i rewlifau ffurfio o Arabia, Gorllewin Affrica, de'r Basn Amazonas hyd at yr Andes. Symudodd canol y rhewlifiant o'r Sarhara (yn ystod yr Ordofigaidd (450-440 miliwn CP) i Dde America yn y Silwraidd (440–420 m CP). Yn ei anterth, gwelwyd ffurfio rhewlifau yn Affrica a gorllewin Brasil.[1]
Dyma un o'r Oesoedd Iâ lleiaf. Fe'i rhagflaenwyd gan y Cryogenaidd (350–260 m CP) a dilynwyd hi gan yr Oes Iâ Karoo (350–260 m CP).[2]