From Wikipedia, the free encyclopedia
O fewn byd y llyfrgell, rheolaeth awdurdod (Saesneg: authority control) ydy'r broses sy'n rhoi trefn ar gatalogi gwybodaeth drwy wahaniaethu rhwng fwy nag un person, lle, peth, syniad ayb o'r un enw a diffinio eitem arbennig mewn modd unigryw.[1][2] Daw'r enw o'r broses o 'awdurdodi' enwau pobl, llefydd, pethau, syniadau ayb i gategori arbennig.[3][4][5] Mae'r awdurdod yn unigryw i'r person neu'r peth, yn fath o ddynodwr neu ID ac yn cael ei roi mwn modd cyson drwy'r catalog cyfan.[6] Mae'r Awdurdod yn 'siarad' neu'n croesweithio gyda data cyffelyb, gan ddolennu a chroesgyfeirio.[6][7] Mae pob pennawd yn disgrifio'n fras ei sgop a'i ddefnydd ac yn helpu'r llyfgellydd i sicrhau mynediad rhwydd a chyfeillgar gan y defnyddiwr i mewn i'r wybodaeth a geisir.[8][9]
Tadogwyd erthyglau mewn dull arbennig a rydd i'r darllenydd wybodaeth arbennig o ffynonellau megis: Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol neu ORCID. Er enghraifft, ar waelod yr erthygl ar Saunders Lewis gwelir manylion fel hyn:
Gellir canfod pob erthygl sydd â rheolaeth awdurdod wrth ei droed drwy agor y Categori:Tudalennau gyda gwybodaeth Awdurdod
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.