Reykjavík Fawr
Reykjavík Fawr, Rhanbarth y Brifddinas / From Wikipedia, the free encyclopedia
Reykjavík Fawr neu Metropol Reykjavik (Islandeg: Höfuðborgarsvæðið, ystyr "Rhanbarth y Brifddinas") yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer y brifddinas, Reykjavik a'r chwech bwrdeistref sydd o'i chylch.[1][2] Dyma'r rhanbarth mwyaf trefol ar yr ynys Gwlad yr Iâ.[3]
Math | rhanbarthau Gwlad yr Iâ |
---|---|
Prifddinas | Reykjavík |
Poblogaeth | 233,034 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad yr Iâ |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Arwynebedd | 1,062.2 km² |
Yn ffinio gyda | Rhanbarth y Gorllewin, Suðurland, Reykjanesskagi |
Cyfesurynnau | 64.2°N 21.7°W |
IS-1 | |
Mae gan bob bwrdeistref ei chyngor etholedig ei hun. Poblogaeth Metropol Reykjavik yw 216,940 sef, dros 60% o boblogaeth Gwlad yr Iâ a hynny mewn ardal sydd ond ychydig dros 1% o diriogaeth y wlad. Amcangyfrifir maint Reykjavík Fawr gan yr ardal sy'n rhan o diriogaeth y bwrdeistrefi gan gynnwys darnau mawr o dir gwag, ac nid yr ardal craidd drefol ei hun sydd hyd yn oed yn llai.[4] Mae'r bwrdeistrefi'n cyd-weithio'n dda, er enghraifft, ar bolisi casglu sbwriel, trafnidiaeth gyhoeddus a brigâd dân cyfun.