Refferendwm annibyniaeth Ynysoedd Ffaröe, 1946
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhaliwyd refferendwm annibyniaeth Ynysoedd Ffaro oddi ar Denmarc ar 14 Medi 1946. Daeth hyn yn sgîl datganiad Gwlad yr Iâ (gwlad arall a reolwyd gan Ddenmarc) yn weriniaeth annibynnol yn 1944. Yn ychwanegol at hyn, wedi goresgyniad Denmarc gan yr Almaen yn 1940, torrwyd y cysylltiad rhwng Ynysoedd Ffaro â Llywodraeth Denmarc a bu Ynysoedd Ffaro i bob pwrpas yn hunanlywodraethol ac o dan reolaeth filwrol lluoedd Prydain a'r Cynghreiriaid am weddill yr Ail Ryfel Byd.
Mae canlyniad y Refferendwm yn dal i fwrw ei gysgod dros yr Ynysoedd ddegawdau wedi'r digwyddiad gyda gwleidyddiaeth y wlad yn dal i seilio i raddau helaeth ar agweddau pleidiau at annibyniaeth. Mae cryfder barn yr Ynysoedd ar faterion hunanlywodraethol i'w gweld yn y modd mae'r Ynysoedd yn dal yn rhan o Frenhiniaeth Denmarc gan ddanfon dau aelod seneddol i senedd-dy, Denmarc yn Copenhagen, ond, yn wahanol i Ddenmarc, nid yw'r Ynysoedd yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.