Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2014
From Wikipedia, the free encyclopedia
Refferendwm ar ddyfodol Catalwnia a gynhaliwyd gan Generalitat de Catalunya (Arlywydd Catalwnia) oedd Refferendwm Catalwnia 2014, a ddiffiniwyd gan y Llywodraeth fel 'Dinasyddion yn cymryd rhan mewn proses sy'n ymwneud â dyfodol y wlad'[1] Fe'i galwyd hefyd yn Refferendwm Annibyniaeth Catalwnia.[2][3][4][5] a defnyddir y term 'y broses o gymryd rhan' gan y Llywodraeth wedi i Lys Cyfansoddiadol Sbaen ganslo "ymgynghoriad poblogaidd di-refferendwm" a oedd i'w gynnal ar yr un dyddiad (9 Tachwedd). Pleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynnol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais.[6]
Canlyniadau. Cryfder y lliw = cryfder y bleidlais. Gwyrdd = Ydw / ydw. | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiad | 2014; 10 mlynedd yn ôl (2014) | |||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Lleoliad | Catalwnia | |||||||||||||||||||||||||||||||
| ||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwefan | ||||||||||||||||||||||||||||||||
www.participa2014.cat |
Gofynnwyd dau gwestiwn: "Ydych chi'n dymuno i Gatalwnia fod yn Wladwriaeth?" a hefyd "Os bydd yr ateb yn gadarnhaol yna, a ydych chi'n dymuno i'r Wladriaeth fod yn annibynnol?"[7][8]
Ar 19 Medi 2014, rhoddodd Llywodraeth Catalwnia (Esquerra Republicana de Catalunya) sêl eu bendith ar alwad am refferendwm ar annibyniaeth.[9] Roedd pleidlais i'w chynnal ar 9 Tachwedd.[10] Ar yr un diwrnod cyhoeddodd Llywodraeth Sbaen y byddent yn atal hyn drwy apelio yn Llys Cyfansoddiadol Sbaen.[11] Ar 29 Medi clywyd yr achos a gohiriwyd y bleidlais a oedd i'w chynnal.[12] Yn dilyn hyn cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia eu bod wedi 'gohirio dros dro' y bleidlais.[13]
Ar 14 Hydref, cynigiodd Artur Mas i Gavarró, Arlywydd y wlad 'broses i'w dinasyddion gymryd rhan yn nyfodol y wlad', yn hytrach na refferendwm.[14] Mynegodd Llywodraeth Catalwnia eu bwriad i apelio yn erbyn Llywodraeth Sbaen yn y Llys Cyfansoddiadol, a phenderfynodd y Llys (ar 4 Tachwedd) i ohirio'r bleidlais. Cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia y bydden nhw'n bwrw ymlaen gyda'r bleidlais, er gwaethaf penderfyniad Llys Cyfansoddiadol Sbaen.[15]
Bydd hawl gan dinasyddion dros 16 oed i bleidleisio.