![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/14/Queimada.jpg/640px-Queimada.jpg&w=640&q=50)
Queimada
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Queimada yn ddiod feddwol ac yn draddodiad o Galisia.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/14/Queimada.jpg/640px-Queimada.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/97/Queimada_Conjuro.jpg/320px-Queimada_Conjuro.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e4/Queimada_fuego.jpg/640px-Queimada_fuego.jpg)
Mae Queimada (llosgi / coelcerth) yn debyg i bwnsh a wneir o 'augardente de Orujo' (dŵr tân Orujo) – gwirod wedi'i ddistyllu o win gan ychwanegu perlysiau, ffa coffi, siwgr, croen lemwn a sinamon mewn crochan. Mae'r Quiemada yn cael ei rhoi ar dân ac yn llosgi'n araf tra bod swyn yn yr iaith Galisieg yn cael ei adrodd. Mae'r swyngan yn galw ar rymoedd hudol gael eu rhoi i'r Queimada ac i'r yfwyr iddynt gael gwared ag ysbrydion drwg.