Pyrénées-Atlantiques
département Ffrainc / From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Nouvelle-Aquitaine (ac Aquitaine cyn hynny) yn ne-orllewin y wlad, yw Pyrénées-Atlantiques (Ocsitaneg: Pirenèus-Atlantics; Basgeg: Pirinio Atlantikoak). Ei phrifddinas yw Pau. Gorwedd ar lan Bae Biscay. Mae'n ffinio â départements Landes, Gers, a Hautes-Pyrénées. Mae'r enw yn golygu Pyrénées yr Iwerydd, ac mae rhan helaeth yr ardal yn fynyddog. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o dalaith hanesyddol Gasgwyn. Hanner gorllewinol y département yw gogledd Gwlad y Basg; yr hanner dwyreiniol yw rhanbarth Béarn, sy'n draddodiadol Gwasgwyneg ei hiaith, ac felly'n rhan o Ocsitania. Er hynny, mae rhai megis Federico Krutwig yn ystyried Gasgwyn yn rhan o Wlad y Basg.
Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...
Math | départements Ffrainc |
---|---|
Enwyd ar ôl | Pyreneau, Cefnfor yr Iwerydd |
Prifddinas | Pau |
Poblogaeth | 693,027 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Jean-Jacques Lasserre |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Nouvelle-Aquitaine |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 7,645 km² |
Yn ffinio gyda | Gers, Hautes-Pyrénées, Landes, Talaith Huesca, province of Navarra, Gipuzkoa |
Cyfesurynnau | 43.25°N 0.833333°W |
FR-64 | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | president of departmental council |
Pennaeth y Llywodraeth | Jean-Jacques Lasserre |
Cau
Mae'r prif drefi yn cynnwys: