From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae problem bocs Bertrand (neu baradocs bocs Bertrand) yn broblem mewn damcaniaeth tebygolrwydd elfennol, a osodwyd gyntaf gan Joseph Bertrand yn 1889 yn ei waith Calcul des probabilités. Weithiau fe'i helwir yn baradocs gan fod ganddo ddatrysiad efallai yn anreddfol.
Mae yna dri bocs:
Rydym yn dewis bocs ar hap ac yn tynnu un darn allan ohono ar hap. Os yw hynny'n digwydd bod yn ddarn aur, beth yw'r tebygolrwydd bydd y darn nesaf a dynnir o'r un blwch hefyd yn ddarn aur?
Efallai mae'n ymddangos taw'r tebygolrwydd bydd y darn arian sy'n weddill yn aur yw 1/2, ond mewn gwirionedd, y tebygolrwydd yw 2/3.
Dwy broblem sy'n debyg iawn yw broblem Monty Hall y Tri Charcharor.
Gallwn labeli'r tri bocs GG (dau ddarn aur), SS (dau ddarn arian), ac GS (un darn aur ac un darn arian). Mae un ffordd anghywir o feddwl am y broblem nawr yn rhoi tebygolrwydd o 1/2:
Ond mae gwall yn y cam olaf. Er ei fod yn wir fod y ddau achos hynny'r un mor debygol yn wreiddiol, gan eich bod yn gwybod eich bod wedi dewis darn aur, mae'r tebygolrwyddau yn newid. Rydych yn sicr o ddod o hyd i ddarn aur pe byddech wedi dewis y bocs GG, ond dim ond 50% yn sicr o ddod o hyd i ddarn aur pe byddech wedi dewis y bocs GS, yn golygu eu bod ddim yr un mor debygol mwyach o ystyried eich bod wedi eisoes dod o hyd i ddarn aur. Yn benodol:
I ddechrau mae GG, SS a GS yr un mor debygol . Felly, yn ôl theorem Bayes, y tebygolrwydd amodol taw GG yw'r bocs a ddewiswyd, o ystyried ein bod wedi arsylwi darn aur, yw:
Gallwn hefyd deillio'r ateb cywir o 2/3 fel a ganlyn:
Fel arall, gellir nodi bod gan y bocs a ddewiswyd dau ddarn o'r un math 2/3 o'r amser. Felly, pa bynnag fath o ddarn a ddewiswyd, mae gan y bocs ddau ddarn arian o'r math hwnnw 2/3 o'r amser. Mewn geiriau eraill, mae'r broblem yn gywerth â gofyn y cwestiwn "Beth yw'r tebygolrwydd y byddaf yn dewis bocs gyda dau ddarn o'r un lliw?".
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.