![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/68/G%25C3%25B6ttingen_asv2022-06_img42_Uni_Aula_Wilhelmsplatz.jpg/640px-G%25C3%25B6ttingen_asv2022-06_img42_Uni_Aula_Wilhelmsplatz.jpg&w=640&q=50)
Prifysgol Georg August Göttingen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Prifysgol ymchwil gyhoeddus a leolir yn Göttingen, yn nhalaith Niedersachsen, yr Almaen, yw Prifysgol Göttingen, yn llawn Prifysgol Georg August Göttingen (Almaeneg: Georg-August-Universität Göttingen, a elwir yn anffurfiol Georgia Augusta). Hon yw'r brifysgol hynaf yn Niedersachsen, a phrifysgol fwyaf y dalaith honno yn nhermau'r nifer o fyfyrwyr. Cydnabyddir yn un o brifysgolion enwocaf ac uchaf ei bri yn Ewrop, ac yn gynrychiolydd o sefydliadau deallusol hanesyddol yr Almaen. Mae ganddi ryw 31,600 o fyfyrwyr.
![]() | |
Arwyddair | In publica commoda ![]() |
---|---|
Math | campus university, Stiftungshochschule, prifysgol gyhoeddus, comprehensive university ![]() |
Enwyd ar ôl | Siôr II, brenin Prydain Fawr ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Göttingen ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.53398°N 9.93792°E ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan | Siôr II, brenin Prydain Fawr ![]() |
Fe'i sefydlwyd ym 1734 gan Siôr II, Brenin Prydain Fawr ac Etholydd Hanofer, gyda'r nod o hyrwyddo syniadau a delfrydau'r Oleuedigaeth, ac agorodd i fyfyrwyr ym 1737. Yn niwedd y 18g, dyma oedd canolfan y "Göttinger Hain", cylch o feirdd natur a serch yn yr oes sentimental a ragflaenai Rhamantiaeth. Can mlynedd wedi iddi agor ei drysau, ym 1837, trawyd ergyd i enw'r brifysgol pan gafodd saith o athrawon eu diswyddo am resymau gwleidyddol.[1]
Yn ôl arddangosfa swyddogol a gynhelwyd yn 2002, bu 44 o enillwyr Gwobrau Nobel yn gysylltiedig â Phrifysgol Göttingen, gan gynnwys cyn-fyfyrwyr, aelodau'r staff, ac ymchwilwyr, yn eu plith y ffisegwyr Max Born, James Franck, Werner Heisenberg, a Max von Laue.[2] [3]
Mae Prifysgol Göttingen yn aelod o U15 (grŵp o brif brifysgolion ymchwil yr Almaen) a Grŵp Coimbra (prif prifysgolion ymchwil Ewrop), ac ynghynt fe'i cefnogwyd gan Fenter Rhagoriaeth Prifysgolion yr Almaen. Mae ganddi gysylltiadau agos â sefydliadau ymchwil eraill yn Göttingen, gan gynnwys Cymdeithas Max Planck a Chymdeithas Leibniz. Mae Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen—llyfrgell y brifysgol a llyfrgell ganolog Niedersachsen—yn un o lyfrgelloedd mwyaf yr Almaen, a chanddi 9 miliwn o eitemau, ac yn un o lyfrgelloedd ymchwil pwysicaf y byd.