![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bb/University_Main_Building.jpg/640px-University_Main_Building.jpg&w=640&q=50)
Prifysgol Copenhagen
prifysgol yn Copenhagen, Denmarc / From Wikipedia, the free encyclopedia
Prifysgol Copenhagen (Daneg: Københavns Universitet) yw'r brifysgol a sefydliad ymchwil hynaf a mwyaf yn Copenhagen, prifddinas Denmarc. Mae ganddo tua 37,000 o fyfyrwyr, y mwyafrif ohonynt yn fenywod, a mwy na 9,000 o weithwyr. Mae gan y Brifysgol nifer o gampysau wedi'u lleoli ledled Copenhagen, gyda'r hynaf sydd wedi'i lleoli yng nghanol y ddinas. Sefydlwyd y Brifysgol yn 1479. Dysgir y mwyafrif o'r cyrsiau yn y Daneg, ond cynigir mwy a mwy o gyrsiau yn Saesneg a rhai yn Almaeneg. Mae'r Brifysgol yn aelod o Gynghrair Ryngwladol Prifysgolion Ymchwil (IARU). Mae yn y 10 uchaf o'r "Prifysgolion Gorau yn y Byd" (Safleoedd Webometrics). Mae'n aelod o'r League of European Research Universities.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bb/University_Main_Building.jpg/640px-University_Main_Building.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a0/KU_frue_plads.jpg/640px-KU_frue_plads.jpg)
Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
![]() | |
Math | prifysgol ymchwil gyhoeddus ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Copenhagen ![]() |
Sir | Bwrdeistref Copenhagen ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 55.6797°N 12.5725°E ![]() |
![]() | |
Cau