![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/27/CommonwealthPrimeMinisters1944.jpg/640px-CommonwealthPrimeMinisters1944.jpg&w=640&q=50)
Prif weinidog
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y gweinidog sy'n dal y swydd uchaf yng nghabinet y llywodraeth mewn sustemau seneddol yw prif weinidog. Mae'n gyfrifol am ddewis a chael gwared o weddill aelodau'r Cabinet ac yn gyfrifol am rannu swyddi gweinidogol yn y llywodraeth i'r aelodau hynny. Yn y rhan fwyaf o wledydd mae hefyd yn gadeirydd y Cabinet hwnnw. Yn y gwledydd hynny lle ceir systemau llywodraeth lled-arlywyddol (ac nid oes llawer ohonynt) gwaith y prif weinidog yw rheoli'r gwasanaeth sifil a gweithredu gorchmynion ar ran pennaeth y wlad.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/27/CommonwealthPrimeMinisters1944.jpg/320px-CommonwealthPrimeMinisters1944.jpg)