From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Presaddfed yn siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig gerllaw Bodedern ar Ynys Môn. Saif mewn cae heb fod ymhell o Lyn Llywenan.
Delwedd:Presaddfed.jpg, Both Presaddfed chambers.jpg | |
Math | safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.299128°N 4.481006°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN010 |
Mae dwy siambr gladdu, rhyw 1.5 medr oddi wrth ei gilydd. Erbyn hyn mae'r siambr ogleddol yn adfeilion, ond mae meini'r siambr ddeheuol yn parhau yn eu lle. Credir mai ei ffurf wreiddiol oedd dwy siambr gladdu gaeedig wedi eu gorchuddio gan un twmpath, fel yn siambr gladdu Trefignath, ond mae'r twmpath pridd fu o gwmpas y siambrau wedi hen ddiflannu. Mae traddodiad lleol i deulu oedd wedi cael eu troi o'u cartref fyw yn y siambr ddeheuol am gyfnod yn 1801.
Aeth beddrod y gogledd yn adfail yn ystod y ddeunawfed ganrif.
Gellir cyrraedd at y siambr gladdu trwy ddilyn y ffordd B5109 o Fodedern, ac yna troi i'r chwith ar ôl rhyw hanner milltir. Mae lle i adael car wrth ochr y ffordd a llwybr cyhoeddus yn arwain at y siambr.
Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)
Siamberi Claddu ar Ynys Môn | ||
---|---|---|
Barclodiad y Gawres | Bodowyr | Bryn Celli Ddu | Bryn yr Hen Bobl | Din Dryfol | Llugwy | Pant y Saer | Presaddfed | Trefignath | Tŷ Newydd | ||
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.