![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f3/Potosi1.jpg/640px-Potosi1.jpg&w=640&q=50)
Potosí
dinas ym Molifia / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn rhan ddeheuol Bolifia yw Potosí. Saif yn nhalaith Tomás Frías, 4,090 medr uwch lefel y môr, ac mae'n hawlio mai hi yw dinas uchaf y byd. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 143,148.
![]() | |
![]() | |
Math | dinas, dinas fawr, ardal drefol ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 189,652 ![]() |
Gefeilldref/i | San Luis Potosí, Calama, Cuzco ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Potosí Department ![]() |
Sir | Potosí Municipality ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 118.218 km² ![]() |
Uwch y môr | 4,070 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 19.5892°S 65.7533°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Datblygodd o ddinas wedi i arian gael ei ddarganfod ym mynydd y Cerro Rico yn 1544. Sefydlwyd y ddinas ym mis Ebrill 1545 dan yr enw "Villa Imperial de Carlos V" gan Juan de Villarroel. Roedd y mwynglawdd yn cynhyrchu arian ar raddfa enfawr, ac erbyn 1672 roedd y boblogaeth wedi cyrraedd tua 200,000, a'r ddinas yn un o'r dinasoedd mwyaf a chyfoethocaf yn Ne America.
Yn ddiweddarach, dirywiodd sefyllfa'r ddinas, ac erbyn 1825 roedd y boblogaeth yn llai na 10,000, a'r cyflenwad o fwyn arian bron wedi dod i ben. Mae rhywfaint o fwyngloddio yn parhau, ond twristiaeth yw prif ffynhonnell incwm yn ddinas bellach. Yn 1987, dynododd UNESCO y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd.