Peter Grant
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o'r Alban yw Peter Grant (ganwyd 1961) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Glenrothes; mae'r etholaeth yn Fife, yr Alban. Mae Peter Grant yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Ffeithiau sydyn Rhagflaenydd, Geni ...
Peter Grant | |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2020 | |
Rhagflaenydd | Lindsay Roy Y Blaid Lafur |
---|---|
Geni | 1961 Coatbridge, Gogledd Swydd Lanark, Yr Alban |
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Glenrothes |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Priod | Fiona (meddyg) |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Cau
Fe'i ganed yn Coatbridge, Gogledd Swydd Lanark, Yr Alban yn 1961 i deulu a oedd yn draddodiadol wedi pleidleisio i'r Blaid Lafur. Symudodd i dref Glenrothes yn 1982, ble etholwyd ef ar ran Plaid Genedlaethol yr Alban yn gynghorydd sir yn yr un flwyddyn. Bu'n arweinydd Cyngor Fife am 5 mlynedd.
Mae'n mwynhau cerddoriaeth ac yn chwarae'r fiolin ers ei blentyndod; diddordeb arall ganddo yw chwarae 'bôls' ac mae'n gadeirydd Clwb Bowlio Leslie.