Cymuned ym mwrdeisdref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Penydarren. Saif i'r gogledd o ganol Merthyr, rhwng Cyfarthfa a Dowlais. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 5,253.
Math | cymuned, maestref |
---|---|
Poblogaeth | 5,419, 5,279 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Merthyr Tudful |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 112.93 ha |
Cyfesurynnau | 51.7581°N 3.3705°W |
Cod SYG | W04000720 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Dawn Bowden (Llafur) |
AS/au y DU | Gerald Jones (Llafur) |
Ceir olion caer Rufeinig yma, yn yr hyn sy'n awr yn barc hamdden y gymuned. Penydarren oedd safle Gwaith Haearn Penydarren, y trydydd mewn maint o bedwar gwaith haearn mawr Merthyr, ar ôl Dowlais a Chyfarthfa.
Ym Mhenydarren y cychwynnai'r dramffordd a ddefnyddiodd Richard Trevithick i brofi ei locomotif ager yn 1804.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[2]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Penydarren (pob oed) (5,419) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Penydarren) (358) | 6.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Penydarren) (4879) | 90% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Penydarren) (836) | 39.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.