Pencampwriaethau Rhyngwladol Rygbi Ewrop
pencampwriaethau rygbi'r undeb gwledydd Ewrop / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Pencampwriaethau Rhyngwladol Rygbi Ewrop (Saesneg: Rugby Europe International Championships) yn enw ar y strwythyr o adrannau sy'n creu cyghrair rygbi'r undeb ar gyfer gwledydd nad ydyn nhw'n cymryd rhan yn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, hynny yw, timau Lefel 2 a lefel 3. Dros y degawdau mae trefniadaeth a chystadlaethau rygbi rhyngwladol y gwledydd nad sy'n chwarae yn nhwrnament y Chw Chwlad (Pum Gwlad cyn hynny) wedi amrywio a bod yn gymleth, gyda llawer o newid trefn ac enwau. Y prif adran yn y gynghrair ryngwladol yma yw'r Rugby Europe Championship a elwir yn answyddogol yn Chwe Gwlad B ac sy'n cynnwys timau megis Rwmania a Jeorjia. O fewn holl adrannau yn y gynghrair ceir y rhan fwyaf o wledydd Ewrop er bod y safon yn amrywio llawer. Cynhelir y gystadleuaeth yn flynyddol.
Key | |
---|---|
Chwe Gwlad | |
Pencamwriaeth (Championship) | |
Tlws (Trophy) | |
Cynh. 1 Gog. (Conference 1 North) | |
Cynh. 1 De (Conference 1 South) | |
Cynh. 2 Gog. (Conference 2 North) | |
Cynh. 2 De (Conference 2 South) | |
Datblygu (Development) | |
Eraill |