![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/2b/The_old_bridge%252C_two_towers_and_walkway%252C_Bridgend_1915596_6bc31f25.jpg/640px-The_old_bridge%252C_two_towers_and_walkway%252C_Bridgend_1915596_6bc31f25.jpg&w=640&q=50)
Pen-y-bont ar Ogwr
tref yng Nghymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Pen-y-bont ar Ogwr[1] (Saesneg: Bridgend).[2] Mae ganddi oddeutu 40,000 o bobol.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | tref, tref farchnad ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 49,404 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5072°N 3.5784°W ![]() |
Cod OS | SS905805 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Sarah Murphy (Llafur) |
AS/au | Chris Elmore (Llafur) |
![]() | |
Cau
- Am leoedd eraill o'r enw "Penybont" neu "Pen-y-bont", gweler Pen-y-bont (gwahaniaethu).
Tan yr 20g, tref marchnad oedd hi yn bennaf. Mae hi bellach yn dref ddiwydiannol oherwydd datblygu ystadau diwydiannol ger yr M4 sydd wedi denu cwmnïau megis Sony a Ford i'r ardal. Mae Pen-y-bont yn gartref hefyd i bencadlys Heddlu De Cymru. Adeiladwyd carchar preifat (Carchar Parc Ei Mawrhydi) yn niwedd y 1990au ar safle hen ysbyty seiciatreg ar gyrion y dref uwchben pentref Coety.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Chris Elmore (Llafur).[4]
Lleolir Carchar y Parc - carchar masnachol i ddynion a throseddwyr ifainc, yn agos i'r dref.