Pelenna
Cymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Pelenna. Saif o fewn dalgylch afon Pelenna, sy'n llifo i mewn i afon Afan. Mae'n cynnwys pentrefi Ton-mawr, Pont-rhyd-y-fen ac Efail-fach, ac roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,173.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,152 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,000.68 ha |
Cyfesurynnau | 51.6517°N 3.7388°W |
Cod SYG | W04000620 |
AS/au | Carolyn Harris (Llafur) |
Cau
Bu'r diwydiant glo yn bwysig yma ar un adeg, ond mae coedwig yn gorchuddio rhan sylweddol o ardal y gymuned.