Grŵp ethnig yn Affganistan a Pacistan yw'r Pashtun (hefyd Pathan). Dyma'r grŵp ethnig mwyaf yn Affganistan, sy'n byw yn y de a'r dwyrain yn bennaf. Ym Mhacistan mae'r mwyafrif llethol yn byw yn ardal Talaith Ffin y Gogledd-Orllewin a'r Ardaloedd Llwythol dan Weinyddiaeth Ffederal (FATA) gydag eraill i'w cael yn Balochistan hefyd; gorwedd yr ardaloedd hyn yng ngorllewin Pacistan am y ffin ag Affganistan. Pashto yw iaith y mwyafrif, yn famiaith i tua 80% o'r Pashtwniaid; mae eu hieithoedd eraill yn cynnwys Perseg ac, i raddau llai, Wrdw (Pacistan). Mae nifer o'r Pashtun yn cyfeirio at eu tiriogaeth fel Pashtunistan ('Gwlad y Pashtun') ac mae rhai o blaid creu gwlad annibynnol i uno Pashtwniaid ar ddwy ochr y ffin bresennol rhwng Pacistan ac Affganistan, sy'n greadigaeth gymharol ddiweddar. Mae'r mwyafrif llethol yn Fwslemiaid.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Label brodorol | پښتون |
Poblogaeth | 53,000,000 |
Enw brodorol | پښتون |
Gwladwriaeth | Pacistan, Affganistan, India, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Unol Daleithiau America, Iran, y Deyrnas Unedig, Canada, Maleisia, Rwsia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar ôl goresgyniad Affganistan gan yr Undeb Sofietaidd yn 1979, ymfudodd tua 5 miliwn o ffoaduriaid, Pashtun yn bennaf, i gael lloches ym Mhacistan. Mae rhai wedi dychwelyd ond amcangyfrir fod tua 2 miliwn yn aros yno o hyd.
Mae'r Pashtun yn cynnwys sawl llwyth a thylwyth yn cynnwys:
- Afridi
- Tanoli
- Khattack
- Mohmand
- Wazir
- Yusufzai
Pashtun enwog
- Hamid Karzai, Arlywydd Affganistan
- Khushal Khan Khattak, bardd-ryfelwr Pashto o'r 17g
Gweler hefyd
- Pashto
- Pashtunistan
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.