From Wikipedia, the free encyclopedia
Adar o'r urdd Psittaciformes yw parotiaid. Mae tua 372 o rywogaethau o barot sy'n perthyn i dri theulu: Strigopidae (parotiaid Seland Newydd fel y Cea a'r Cacapo), Cacatuidae (y cocatŵod) a Psittacidae (parotiaid eraill). Ceir y mwyafrif ohonynt mewn fforestyddd a choetir yn rhanbarthau cynnes y byd, yn enwedig Awstralasia a De America.
Parotiaid | |
---|---|
Macaw Glas a Melyn (Ara ararauna) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Is-ddosbarth: | |
Inffradosbarth: | |
Uwchurdd: | Neoaves |
Urdd: | Psittaciformes Wagler, 1830 |
Teuluoedd | |
Strigopidae (parotiaid Seland Newydd) |
Maent yn amrywio o 9 hyd 100 cm o ran maint. Mae rhai ohonynt yn lliwgar iawn tra mae eraill yn wyrdd neu frown. Mae ganddynt big bachog a thraed cryf gyda dau fys troed yn pwyntio ymlaen a dau sy'n pwyntio yn ôl.
Mae llawer ohonynt yn anifeiliaid anwes poblogaidd, yn arbennig y Byji. Adar deallus yw parotiaid a gall rhai ohonynt, megis Parot Llwyd Affrica, efelychu lleferydd dynol a synau eraill.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.