![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b6/Gorkhi-Terelj_National_Park.jpg/640px-Gorkhi-Terelj_National_Park.jpg&w=640&q=50)
Parc Cenedlaethol Gorkhi-Terelj
From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o barciau cenedlaethol Mongolia yw Parc Cenedlaethol Gorkhi-Terelj (Mongoleg: Горхи-Тэрэлж, "rhododendron y nant"). Mae'n gorwedd ym Mynyddoedd Kentii tua 40–50 km o Ulan Bator. Llifa Afon Tuul drwy'r parc. Gerllaw mae mynydd sanctaidd Burkhan Khaldun, a gysylltir â Genghis Khan.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b6/Gorkhi-Terelj_National_Park.jpg/640px-Gorkhi-Terelj_National_Park.jpg)
Mae atyniadau yn cynnwys Llyn Khagiin Khar a Ffynhonnau Poeth Yestii. Ceir yn ogystal fynachlog Fwdhaidd sydd ar agor i ymwelwyr. Mae bywyd gwyllt y parc yn cynnwys eirth brown a thros 250 rhywogaeth o adar. Ceir sawl craig drawiadol yno, yn cynnwys "Craig y Crwban" (Mongoleg: Melkhii Khad) a'r "Lama yn gweddio".