From Wikipedia, the free encyclopedia
Digwyddiad aml chwaraeon ar gyfer athletwyr gydag anableddau corfforol a gweledol yw'r Gemau Paralympaidd. Mae hyn yn cynnwys athletwyr gydag anableddau symyd, trychiadau, dallineb a pharlys yr ymennydd. Cynhelir y Gemau Paralympaidd pob pedair mlynedd, yn dilyn y Gemau Olympaidd, a llywodraethir gan y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol (PPRh). Weithiau, caiff y Gemau Paralympaidd eu drysu gyda Gemau Olympaidd Arbennig y Byd, sydd ond ar gyfer pobl ag anableddau deallusol.
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon |
---|---|
Math | digwyddiad aml-chwaraeon, cystadleuaeth rhyngwladol |
Dechrau/Sefydlu | 1960 |
Gwefan | https://www.paralympic.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er mai portmanteau oedd y term Paralympaidd yn wreiddiol, a gyfunodd 'paraplegic' (oherwydd tarddiad y gemau ar gyfer rhai ag anafiadau sbinol) ac 'Olympaidd',[1] mae cynnwys grwpiau eraill o anableddau'n golygu nad yw'r term bellach yn gymwys. Yr eglurhad ffurfiol presennol, yw y daw'r term o'r arddodiad Groeg παρά, pará ("wrth ymyl" neu "cyfochrog") ac felly'n cyfeirio at gystadleuaeth a gynhelir yn gyfochrog gyda'r Gemau Olympaidd.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.