![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9b/Pope_Clement_XI_%25E2%2580%2593_Pier_Leone_Ghezzi_%2528c._1708%2529.jpg/640px-Pope_Clement_XI_%25E2%2580%2593_Pier_Leone_Ghezzi_%2528c._1708%2529.jpg&w=640&q=50)
Pab Clement XI
From Wikipedia, the free encyclopedia
Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig a rheolwr Taleithiau'r Babaeth o 23 Tachwedd 1700 hyd ei farwolaeth oedd Clement XI (ganwyd Giovanni Francesco Albani) (23 Gorffennaf 1649 – 19 Mawrth 1721).
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Pab Clement XI | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Giovanni Francesco Albani ![]() 23 Gorffennaf 1649, 22 Gorffennaf 1649 ![]() Pesaro, Urbino ![]() |
Bu farw | 19 Mawrth 1721 ![]() Rhufain ![]() |
Dinasyddiaeth | Taleithiau'r Babaeth ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, pab ![]() |
Swydd | pab, cardinal ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cau
Roedd yn noddwr i'r celfyddydau a'r gwyddorau, yn ogystal â bod yn gymwynaswr pwysig i Lyfrgell y Fatican. Awdurdododd alldeithiau a lwyddodd i ailddarganfod amryw o ysgrifau Cristnogol hynafol. Cymerodd ddiddordeb mawr mewn archeoleg, a chredir iddo ddiogelu llawer o weddillion Rhufain hynafol.
Rhagflaenydd: Innocentius XII |
Pab 23 Tachwedd 1700 – 19 Mawrth 1721 |
Olynydd: Innocentius XIII |