![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8b/Arms_of_Owen_Tudor.svg/langcy-640px-Arms_of_Owen_Tudor.svg.png&w=640&q=50)
Owain Tudur
uchelwr Cymreig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Milwr, gŵr llys, a phriod dirgel Catrin o Valois, gweddw Harri V, brenin Lloegr, oedd Owain Tudur (tua 1400 – 2 Chwefror 1461). Ef oedd tadcu Harri Tudur trwy ei fab Edmwnd Tudur. O'i bedwar mab arall y pwysicaf fu Siasbar Tudur, Iarll Penfro a Dug Bedford, a ymgyrchai'n galed i gael Harri Tudur ar orsedd Lloegr. Roedd Owain Tudur yn un o ddisgynyddion Ednyfed Fychan, canghellor Llywelyn Fawr. Roedd yn perthyn i Duduriad Môn trwy ei dad Maredudd ap Tudur, brawd Rhys ap Tudur a Goronwy ap Tudur a ymunasant ag Owain Glyn Dŵr yn ei wrthryfel yn erbyn y Saeson. Penmynydd ar Ynys Môn oedd ystâd y teulu.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Owain Tudur | |
---|---|
Ganwyd | c. 1400 ![]() Cymru ![]() |
Bu farw | 2 Chwefror 1461 ![]() Henffordd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | person milwrol ![]() |
Cysylltir gyda | Penmynydd ![]() |
Tad | Maredudd ap Tudur ![]() |
Mam | Margaret Fychan ![]() |
Priod | Catrin o Valois ![]() |
Plant | Edmwnd Tudur, Siasbar Tudur, merch Tudor, Owen Tudor, Margaret Tudor, David Owen ![]() |
Llinach | Tuduriaid ![]() |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8b/Arms_of_Owen_Tudor.svg/320px-Arms_of_Owen_Tudor.svg.png)