Ongl sgwâr
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn geometreg a thrigonometreg, ongl sgwâr (neu yn anaml: 'ongl dde') yw ongl gydag union 90 ° (gradd), sy'n cyfateb i chwarter tro. Os rhoddir pwynt dechreuol pelydryn ar linell syth, a'r onglau cyfagos yn hafal, yna ceir ongl sgwâr.[1][2] Gellir disgrifio gwrthrychau a ffurfiau sy'n cynnwys onglau sgwâr gyda'r ansoddair sgwâr-onglog.[3]
Diffiniad o 'ongl' yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru yw: Y gofod rhwng dwy linell neu ddau blân sy'n cyffwrdd; aroledd dwy linell a'i gilydd.
Ceir sawl cysyniad geometrig cysylltiedig ag ongl sgwâr, gan gynnwys llinellau perpendicwlar ac orthogonoledd.