From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyfais gron sy'n medru troi ar echel yw olwyn. Fe'i defnyddir ar gyfer trafnidiaeth ac mewn peiriannau ar gyfer gwahanol dasgau. Gelwir crefftwr sy'n gwneud olwynion pren traddodiadol yn saer troliau.
Credir fod yr olwyn wedi ei defnyddio gyntaf ym Mesopotamia yn y 4edd mileniwm CC.. Ar ochr ogleddol mynyddoedd y Caucasus, cafwyd hyd i feddau yn dyddio o tua 3700 CC lle roedd pobl wedi eu claddu ar wagenni neu gerti.
Roedd yr olwyn wedi cyrraedd Ewrop a Gwareiddiad Dyffryn Indus erbyn diwedd y 4edd mileniwm CC. Yn Tsieina, cofnodir cerbyd gydag olwynion yn dyddio o tua 1200 CC, a chred rhai ysgolheigion ei bod wedi cyrraedd Tsieina erbyn tua 2000 CC. Nid oes sicrwydd ai mewn un lle y darganfuwyd yr olwyn, a bod y wybodaeth amdani wedi ymledu, ynteu a gafodd ei darganfod yn annibynnol mewn sawl lle. Ni ddarganfuwyd yr olwyn gan wareiddiadau America, er i wareiddiad yr Olmec ddod yn agos.
Datblygwyd y syniad o olwyn yn troi ar echel yn ddiweddarach; ceir yr enghreifftiau cynharaf y gwyddir amdanynt yn niwylliant Andronovo tua 2000 CC. Yn fuan wedyn, datblygwyd y cerbyd rhyfel, a datblygodd y Celtiaid y syniad o roi haearn ar ymyl yr olwyn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.