From Wikipedia, the free encyclopedia
Duwies y nos ym mytholeg Roeg, merch Chaos (Anhrefn) yw Nyx (Groeg Νύξ, Lladin Nox). Mae'n debyg ei bod yn hŷn o lawer na'r rhan fwyaf o'r duwiau yn y pantheon Groeg clasurol.
Enghraifft o'r canlynol | duwdod primordaidd Groeg, duwies |
---|---|
Enw brodorol | Νύξ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Priododd ei brawd Erebus a ffrwyth yr uniad hwnnw oedd Dydd a Goleuni. Hi hefyd oedd mam y Parcae, yr Hesperides, Breuddwydion, Anghydfod, Marwolaeth, Momus a duwiau a duwiesau eraill. Mae rhai o'r beirdd clasurol yn ei galw "Mam Popeth", sef dyn a'r duwiau gyda'i gilydd. Roedd cerflun ohoni yn nheml enwog y dduwies Artemis (Diana) yn Ephesus, yn Asia Leiaf. Arferid offrymu dafad ddu iddi am ei bod yn fam i'r Eumenides (y Furiae). Offrymid ceiliog iddi hefyd, am fod yr aderyn hwnnw'n cyhoeddi dyfodiad y wawr.
Mae hi'n cael ei phortreadu yn eistedd ar gerbyd, yn gwisgo gorchudd yn frith o sêr. Roedd y Cytserau yn ei rhagflaenu ar ei thaith. Weithiau mae hi'n cael ei dangos yn dwyn dau blentyn yn ei breichiau, un ohonynt yn ddu ac yn cynrychioli'r nos, neu farwolaeth, a'r llall yn wyn ac yn cynrychioli cwsg neu oleuni'r dydd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.