From Wikipedia, the free encyclopedia
Car trydan bychan, hatchback ydy'r Nissan Leaf (neu "LEAF", sy'n acronym o: Leading, Environmentally friendly, Affordable, Family car)[1][10] a gynhyrchir gan Nissan. Cafodd ei gyflwyno i Japan ac Unol Daleithiau America yn Rhagfyr 2010. Lansiwyd model newydd ar 2 Hydref 2017, ac enillodd Wobr WhatCar? am y car trydan gorau, 2018 ar unwaith.[11]
Nissan Leaf | |
---|---|
Nissan Leaf (USA) | |
Trosolwg | |
Gwneuthurwr | Nissan |
Enw arall | Venucia e30 (Tsieina) |
Cynhyrchu | 2010–presennol |
Gosod | Japan: Oppama, Tochigi, Yokohama Unol Daleithiau: Smyrna, Tennessee Deyrnas Unedig: Dinas Sunderland (Nissan Motor Manufacturing UK) |
Corff a siasi | |
Dosbarth | Car bychan |
Math o gorff | hatchback 5-drws |
Trefn | Injan a gyriant yn y ffrynt |
Llwyfan | Llwyfan EV Nissan |
Pwer | |
Modur trydan | 80 kW (110 hp), 280 N⋅m (210 ft⋅lb) peiriant cydamserol (synchronous motor)[1] |
Trosglwyddiad | Single speed constant ratio (7.94:1)[2] |
Batri | Batri lithium ion 24 kW·h |
Pellter | model 2011/12 117 km (73 mi) Asiantaeth Amgylchedd Unol Daleithiau America 175 cilometr Cylch Gyrru Newydd Ewrop model 2013 121 km (75 mi) EPA[3] 200 km (120 mi) NEDC[4] |
Gorsaf bweru | 3.3 kW a 6.6 kW (opsiynol) 240 V AC[5] ar fewnfa o SAE J1772-2009, uch. 44 kW 480 V DC ar fewnfa CHAdeMO,[6] addaswr ar gyfer socedi AC (110-240 V) |
Maint | |
Pellter rhwng echelydd (Wheelbase) | 2,700 mm (106.3 mod) [7] |
Hyd | 4,445 mm (175.0 mod)[7] |
Lled | 1,770 mm (69.7 mod)[7] |
Uchder | 1,550 mm (61.0 mod)[7] |
Pwysau pafin | modelau 2011/12 1,521 kg (3,354 lb)[8] 2013 model 1,493 kg (3,291 lb)[9] |
Yn Rhifyn Haf 2016 o gylchgrawn gwerthuso ceir Top Gear, derbyniodd y Nissan Leaf 7 marc allan o 10.[12] Fe'i beirniadwyd am ei bris uchel, yr angen am estyniad trydan i'w ailwefru ac am ei brinder milltiroedd. O'i blaid dywedwyd ei fod yn gar-teulu da ac mai hwn oedd y car trydan-yn-unig cyntaf i fod yn gwbwl argyhoeddiedig.
Cychwynwyd danfon y ceir i gwsmeriaid yn UDA a Japan yn Rhagfyr 2010, gyda Chanada a gwledydd Ewrop yn dynn wrth eu sodlau yn 2011, ac erbyn Gorffennaf 2014 roedd 35 o wledydd yn gwerthu'r Nissan Leaf. Dyma'r car trydan ar gyfer y teulu sydd wedi gwerthu mwyaf, gyda dros 130,000 wedi'u gwerthu erbyn Awst 2014. Erbyn Gorffennaf 2014 y gwledydd oedd wedi gwerthu'r nifer fwyaf o'r car oedd: UDA (58,000), Japan (42,000) ac Ewrop (25,000). O blith gwledydd Ewrop, Norwy sy'n arwain gyda 10,000 o unedau wedi'u gwerthu. 5,000 oedd wedi'u gwerthu yng ngwledydd Prydain. Mae'n cael ei adeiladu yng ngwledydd Prydain a mannau eraill.
Dadorchuddiwyd car batri cyntaf Nissan (y Nissan Altra) yn y Los Angeles International Auto Show ar 29 Rhagfyr 1997.[13] Fe'i cynhyrchwyd rhwng 1998 a 2002, a dim ond tua 200 o'r cerbydau a gafodd eu creu, a hynny fel cerbyd masnachol.[14][15] Ar yr un pryd datblygodd y cwmni gerbyd arall sef y 'Nissan Hypermini', a gwerthwyd nifer fechan - yn bennaf i lywodraethau a chwmniau masnachol Japan rhwng 1999 a 2001.[16] Profwyd swp bychan ohonynt hefyd yng Nghaliffornia rhwng 2001 a 2005.[17]
Lansiwyd y prototeip 'EV-11' yn 2009, car a oedd yn seiliedig ar y 'Nissan Tiida' (a alwyd hefyd yn 'Versa' yng Ngogledd America) ond disodlwyd y peiriant petrol arferol gyda batri lithium-ion 24 kW·h a modur 80 kW (110 hp)/280 N⋅m (210 lb⋅ft). Roedd ganddo bellter o 175 cilometr (109 mi) yn ôl Asiantaeth Gwarchod Amgylchedd yr UD a system fforio neu nafigeiddio a oedd yn dibynnu ar ffôn llaw.[18] Arddangoswyd y car yma ar 26 Gorffennaf 2009.[18] Yr wythnos ddilynol, dadorchuddiwyd car tebyg iawn a fwriadwyd ar gyfer ei fas-gynhyrchu, sef y Nissan Leaf.[19][20]
Mae Asiantaeth Amgylchedd Unol Daleithiau America (U.S. Environmental Protection Agency (EPA)) yn nodi pellter swyddogol o 171 km (107 mill) ar gyfer model 2016, sy'n gyfwerth â 124 milltir y galwyn (1.9 L/100 km) mewn dinas a 101 MPGe (2.3 L/100 km) ar y briffordd.[3][21] Yn ôl Cylch Gyrru Newydd Ewrop, mae ganddo bellter o 200 km (120 mi).[4] Yn ail chwarter 2012, rhoddwyd prawf manwl ar y Leaf gan gylchgrawn o'r Ffindir, sef y Tekniikan Maailma, mewn tymheredd o −15 °C (5 °F), a theithiodd y car 59 cilometr (37 mi) ar un llond batri, a hynny gyda'r gwresogydd ymlaen.[22]
Fel car trydan, nid yw'r Leaf yn cynhyrchu unrhyw lygredd uniongyrchol (h.y. o'i beipen fwg), nac unrhyw allyriad o nwyon tŷ gwydr uniongyrchol, ac felly mae'n lleihau dibynedd ar betrol a disl.[23][24] Mae'r car wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys 'Gwobr y Car Gwyrdd' yn 2010, 'Car Ewropeaidd y Flwyddyn' yn 2011 , 'Gwobr Car y Byd' yn 2011 a 'Gwobr Car Gorau Japan' am y flwyddyn 2011-12.
Nissan Leaf (ZE1) | |
---|---|
Trosolwg | |
Gwneuthurwr | Nissan |
Cynhyrchu | 2017–present |
Gosod | Japan: Oppama a Yokosuka, Kanagawa UDA: Smyrna, Tennessee Gwledydd Prydain: Sunderland |
Corff a siasi | |
Dosbarth | car cryno |
Math o gorff | hatchback 5-drws |
Trefn | Modur / peiriant blaen, gyrriant blaen |
Pwer | |
Modur trydan | modur cydamserol 110 kW (148 hp), 320 N⋅m (240 ft⋅lb)[25] |
Trosglwyddiad | Un cyflymder, cymhareb cyson |
Batri | MY 2018 40 kWh batri lithiwm-ion [26] |
Pellter | MY 2018 243 km (151 milltir) EPA[26] |
Maint | |
Pellter rhwng echelydd (Wheelbase) | 2700mm |
Hyd | 4490mm |
Lled | 1788mm |
Uchder | 1530mm |
Pwysau pafin | 1580-1640kg |
Lansiwyd model newydd ar 2 Hydref 2017, ac enillodd Wobr WhatCar? am y car trydan gorau, 2018 ar unwaith.[11][27] Mae'r cerbyd hwn yn cynnwys batri 40KW/awr a gall deithio am bellter o 151 milltir ar un llenwad.[26] Mae gan y peiriant wrthrym o 236 a hp o 147.[25] Caiff ei wefru drwy blyg arferol 6.6 kW neu un cyflym, 50 kW CHAdeMO a gall ddanfon pwer yn ôl i'r Grid Cenedlaethol, gan gynhyrchu incwm i'w berchennog.[28] Ceir Propilot driver assistance system ar y math drytaf, sy'n cadw'r car o fewn ei lôn.[29]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.