![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/03/Arnhem_Nederrijn_ochtend_apr04.jpg/640px-Arnhem_Nederrijn_ochtend_apr04.jpg&w=640&q=50)
Nederrijn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Afon yn yr Iseldiroedd yw'r Nederrijn (Iseldireg am "y Rhein Isaf"). Mae'n un o ganghennau Afon Rhein.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Lower Rhine, Grote rivieren ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52°N 5.4°E, 51.9497°N 5.9519°E, 51.9697°N 5.3522°E ![]() |
Aber | Afon Lek ![]() |
Llednentydd | Oude Rijn, Pannerdensch Kanaal ![]() |
Hyd | 50 cilometr ![]() |
![]() | |
Cau
Ceir dechreuad y Nederrijn ger Angeren, lle mae'n barhad o Gamlas Pannerden, sydd ei hun yn un o ganghennau Afon Rhein. Dechreua'r Nederrijn ychydig cyn i Afon IJssel ymwahanu ger Arnhem. Diwedda'r Nederrijn gerllaw Wijk bij Duurstede; oddi yno gelwir y brif afon yn Afon Lek a'r hen afon yn Kromme Rijn.
Yn 1530 dechreuwyd newid cwrs yr afon ger Arnhem, gan orffen y gwaith yn 1536. Y bwriad oedd sicrhau fod dinas Arnhem ar y brif afon, am resymau economaidd ac am y byddai'n haws ei hamddiffyn rhag y Sbaenwyr.