pentref ym Mlaenau Gwent From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref mawr yng nghymuned Nantyglo a Blaenau, bwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Nant-y-glo.[1][2] Saif ychydig i'r de o Fryn-mawr ac i'r gogledd o'r Blaenau.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Blaenau Gwent |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7828°N 3.1698°W |
Cod OS | SO195105 |
Cod post | NP13 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Alun Davies (Llafur Cymru) |
AS/au y DU | Nick Smith (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Nick Smith (Llafur).[3][4]
Yn y 19g, roedd Nant-y-glo yn un o ardaloedd cynhyrchu haearn pwysicaf y byd. Datblygwyd Gwaith Haearn Nant-y-glo gan Crawshay Bailey, ac erbyn tua 1844 roedd gweithfeydd haearn a glo y teulu yn cyflogi 3,000 o ddynion a 500 o wragedd a phlant.
Cadwai'r Siartydd Zephaniah Williams dafarn y Royal Oak yma. Gyda John Frost a William Jones, arweiniodd nifer fawr o wŷr o ardal Nant-y-glo i ddinas Casnewydd yn 1839. Roedd Beriah Gwynfe Evans yn enedigol o'r pentref.
Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 373 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 325 o bobl yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 280 o bobl yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 9.6% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.