Mynydd yng Ngwynedd sy'n rhan o Grib Nantlle yw Mynydd Drws y Coed, weithiau Mynydd Drws-y-coed. Saif rhwng Y Garn i'r gogledd-ddwyrain ar hyd y grib a Trum y Ddysgl i'r de-orllewin.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Mynydd Drws y Coed
Thumb
Mathmynydd, copa 
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMoel Hebog 
SirGwynedd
Gwlad Cymru
Uwch y môr695 metr 
Cyfesurynnau53.0453°N 4.1639°W 
Cod OSSH549520 
Manylion
Amlygrwydd57 metr 
Rhiant gopaTrum y Ddysgl 
Cadwyn fynyddMoel Hebog 
Thumb
Cau

Caiff ei enw o ffermdy a bwlch Drws y Coed ym mhen uchaf Dyffryn Nantlle ar ochr ogleddol y mynydd. Ar lethrau deheuol y mynydd, mae rhan uchaf Coedwig Beddgelert. Gellir ei ddringo trwy ddringo'r Garn o bentref Rhyd Ddu gyntaf.

Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.