Mynydd yng Ngwynedd sy'n rhan o Grib Nantlle yw Mynydd Graig Goch. Saif ar ben de-orllewinol Crib Nantlle, i'r de-orllewin o gopa Craig Cwm Silyn gyda chopa Garnedd Goch i'r dwyrain ohono.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Mynydd Graig Goch
Thumb
Mathcopa, mynydd 
Daearyddiaeth
SirGwynedd 
Gwlad Cymru
Uwch y môr610 metr 
Cyfesurynnau53.0128°N 4.2414°W 
Cod OSSH4973248518 
Manylion
Amlygrwydd71 metr 
Rhiant gopaCraig Cwm Silyn 
Cadwyn fynyddCrib Nantlle 
Thumb
Cau

Hyd at 2008, ystyrid mai ei uchder oedd 609m neu 1,998 troedfedd. Ail-fesurwyd ef y flwyddyn honno, a'r canlyniad oedd ei fod yn 609.75 medr, neu 2,000.49 troedfedd, ac felly yn swyddogol yn fynydd yn hytrach nag yn fryn. I'r gogledd o'r copa mae Craig Cwm Dulyn yn arwain i lawr at Lyn Cwm Dulyn

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.