From Wikipedia, the free encyclopedia
Murasaki (紫式部) yw llysenw (murasaki "blodeuyn eirin") llenores o Japan a flodeuai ar ddechrau'r cyfnod Heian (c.973-c.1014). Fe'i hadnabyddir hefyd fel Yr Arglwyddes Murasaki. Roedd hi'n gyfoeswr i'r llenores Sei Shōnagon, awdures Makura no Sōshi (Llyfr Erchwyn y Gwely).
Murasaki Shikibu | |
---|---|
Ganwyd | 藤原 香子 970s Heian-kyō |
Bu farw | Heian-kyō |
Galwedigaeth | boneddiges breswyl, nofelydd, bardd, llenor, dyddiadurwr, athronydd, sgriptiwr ffilm |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Chwedl Genji, The Diary of Lady Murasaki, Poetic Memoirs |
Tad | Fujiwara no Tametoki |
Mam | Fujiwara no Tamenobu's daughter |
Priod | Fujiwara no Nobutaka |
Plant | Daini no Sanmi |
Ei brif waith llenyddol yw'r nofel hir Genji no Monogatari (Hanes Genji), sy'n disgrifio hynt a helynt arglwydd ifanc yn y llys ymherodrol yn y brifddinas Heian Kyo a thu hwnt. Fe'i hystyrir yn un o gampweithiau llenyddiaeth Siapaneg. Mae Genji no Monogatari yn nofel estynedig hir iawn, gyda 54 pennawd sy'n rhedeg i o gwmpas 4,500 tudalen printiedig yn yr argraffiad safonol diweddar. Arddull realistig sydd i'r nofel.
Ysgrifennodd Murasaki ddyddiadur yn ogystal, Murasaki no Shikibu Nikki.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.