![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d3/Stadtbild_M%25C3%25BCnchen.jpg/640px-Stadtbild_M%25C3%25BCnchen.jpg&w=640&q=50)
München
prifddinas Bafaria, yn yr Almaen / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn ne'r Almaen ac yn brifddinas talaith Bafaria yw München (Bafareg: Minga).
![]() | |
![]() | |
Arwyddair | Weltstadt mit Herz ![]() |
---|---|
Math | tref goleg, dinas fawr, residenz, metropolis, canolfan ariannol, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Bavaria, prif ddinas ranbarthol, Körperschaft des öffentlichen Rechts ![]() |
Enwyd ar ôl | mynach ![]() |
Poblogaeth | 1,512,491 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Solang der alte Peter ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Dieter Reiter ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Caeredin, Kyiv ![]() |
Nawddsant | Benno ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Oberbayern ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 310.71 km² ![]() |
Uwch y môr | 519 ±1 metr ![]() |
Gerllaw | Isar, Isar-Werkkanal, Würm, Eisbach, Auer Mühlbach, Kleinhesseloher See, Dreiseenplatte, Kleine Isar, Nymphenburg Canal, Schwabinger Bach ![]() |
Yn ffinio gyda | Munich, Dachau, Fürstenfeldbruck, Garching bei München, Q55278376, Q55278629, Neubiberg, Oberschleißheim, Ismaning, Unterföhring, Aschheim, Feldkirchen, Haar, Putzbrunn, Unterhaching, Grünwald, Pullach, Neuried, Planegg, Gräfelfing ![]() |
Cyfesurynnau | 48.1375°N 11.575°E ![]() |
Cod post | 80331–81929, 85540 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Munich ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Dieter Reiter ![]() |
![]() | |
Cost | 6,600,000,000 Ewro ![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d8/DEU_M%C3%BCnchen_COA.svg/320px-DEU_M%C3%BCnchen_COA.svg.png)
Gyda phoblogaeth o 1.36 miliwn yn Rhagfyr 2006, München yw trydydd dinas yr Almaen o ran poblogaeth; dim ond Berlin a Hamburg sy'n fwy. Dim ond 24,000 oedd y boblogaeth yn 1700, ond ers hynny mae'r boblogaeth wedi dyblu bob 30 mlynedd. Mae hefyd yn un o ddinasoedd cyfoethocaf Ewrop. Ystyr yr enw yw "mynachod", ac mae'r ffigwr ar bais arfau'r ddinas yn cynrychioli mynach.
Ceir y sôn cyntaf am y ddinas mewn dogfen yn 1158, pan oedd pont dros Afon Isar gerllaw mynachdy Benedictaidd. Pan ad-unwyd Bafaria yn 1506 daeth München yn brifddinas, ac yn 1806 daeth yn brifddinas Teyrnas Bafaria. Rhwng y ddau ryfel byd, yn München y cododd y Natsïaid a'u harweinydd Adolf Hitler i amlygrwydd. Yn 1923 ceisiodd ef a'i gefnogwyr gipio grym yma, ond methodd a charcharwyd ef.
Yng nghanol y ddinas mae'r Marienplatz, gyda Neuadd y Ddinas gerllaw. Yr adeilad enwocaf yma yw eglwys gadeiriol Gatholig y Frauenkirche. Mae nifer o dimau pêl-droed yn y ddinas, yn cynnwys yr enwocaf o glybiau pêl-droed yr Almaen, FC Bayern Munich. Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yma yn 1972. Mae'r ddinas hefyd yn enwog am yr Oktoberfest, sydd, er gwaethaf ei enw, yn cael ei gynnal ym mis Medi, gan orffen ar y Sul cyntaf yn Hydref.