![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/20/MS2015.jpg/640px-MS2015.jpg&w=640&q=50)
Mumford & Sons
From Wikipedia, the free encyclopedia
Band roc gwerin o Lundain ydy Mumford & Sons. Aelodau'r band yw Marcus Mumford (llais, gîtar, drymiau), Winston Marshall (llais, banjo, dobro), Ben Lovett (llais, allweddellau, organ), Ted Dwane (llais, bas dwbl). Ffurfiodd y band yn hwyr yn 2007, gan godi o sîn gwerin Llundain ynghyd â cherddorion eraill megis Laura Marling, Johnny Flynn, Jay Jay Pistolet a Noah and the Whale. Mae'r band wedi cefnogi Laura Marling mewn cyngherddau'n aml. Mynychodd Mumford a Lovett Ysgol Coleg y Brenin, Wimbledon ynghyd â chwaraewr gîtar fâs Noah and the Whale, Matt Owens, tra mynychodd Marshall Ysgol Sant Paul gyda Charlie Fink, prif lais Noah and the Whale.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | band ![]() |
---|---|
Gwlad | ![]() |
Label recordio | Island Records, Glassnote Records, Universal Music Group ![]() |
Dod i'r brig | 2007 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 2007 ![]() |
Genre | cerddoriaeth roc, roc gwerin, Canu gwerin, canu gwlad ![]() |
Yn cynnwys | Marcus Mumford ![]() |
Gwefan | https://www.mumfordandsons.com ![]() |
![]() |
Ym mis Chwefror 2008, cwblhaodd y band daith o'r Deyrnas Unedig gyda Alessi's Ark, Sons of Noel and Adrian, Peggy Sue, Pete Roe, The Cutaway a mwy.[1][2] Cawsont eu henwebu ar restr hir Sound of 2009 y BBC.[3]
Maent wedi bod yn teithio gyda The Maccabees yn ddiweddar.
Yn fuan wedi arwyddo cytundeb gyda Island Records, rhyddhawyd eu halbwm cyntaf ar 5 Hydref 2009 gyda "Little Lion Man" yn brif sengl. Dyma oedd record yr wythnos Dave Berry o Xfm ac ar BBC Radio 1 "Little Lion Man" oedd "Reaction Record" Zane Lowe ar 27 Gorffennaf 2009,[4] cyn ei enwi'n "Hottest Record in the World" y noson canlynol.[5] Mewn cyfweliad ar y sioe, cadarhaodd Marcus mai enw'r albwm fyddai Sigh No More, gan gymryd yr enw o drac ar yr albwm. Mae DJ Radio 1 Greg James yn gefnogwr brwd o'r band, ac mae wedi enwi "Little Lion Man" a "Winter Winds" yn record yr wythnos.
Enillodd Mumford & Sons wobr y Band Gorau yn 3ydd Gwobrau Fideo Cerddoriaeth Blynyddol BalconyTV yn Nulyn ar 3 Gorffennaf 2009.[6]