Muhammad ibn Mūsā al-Khwārizmī
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mathemategydd, seryddwr a daearyddwr Persiaidd oedd Muhammad ibn Mūsā al-Khwārizmī, Arabeg: محمد بن موسى الخوارزمي, (tua 780 - tua 850). Cafodd ei eni yn ninas Khwarezm (Khiva yn Wsbecistan heddiw). Bu'n gweithio yn Baghdad am y rhan fwyaf o'i oes, ac ystyrir ef yn dad algebra. Ei waith ef, Rhifyddiaeth, a gyflwynodd y pwynt degol i'r gorllewin. Ysgrifennai yn Arabeg yn hytrach na Perseg. Cafodd ei waith ddylanwad mawr yn Ewrop trwy gyfieithiadau Lladin.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Muhammad ibn Mūsā al-Khwārizmī | |
---|---|
Ganwyd | أبو عبد الله محمد بن موسى الخوارزمي c. 780 Khwarezm, Unknown |
Bu farw | c. 850 Baghdad, Unknown |
Man preswyl | Baghdad |
Galwedigaeth | mathemategydd, seryddwr, daearyddwr, athronydd, cyfieithydd, astroleg, hanesydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Compendious Book on Calculation by Completion and Balancing |
Cau
Mewn daearyddiaeth, cyhoeddodd ei Kitāb ṣūrat al-Arḍ ("Llyfr ymddangosiad y ddaear") yn 833, fersiwn wedi ei ddiweddaru a'i gwblhau o Geographia yr ysgolhaig Groegaidd Ptolemi.