ffilm ddrama am gerddoriaeth gan Baz Luhrmann a gyhoeddwyd yn 2001 From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffilm gerdd a gyfarwyddwyd, cyhyrchwyd ac a ysgrifennwyd ar y cyd gyda Baz Luhrmann yn 2001 ydy Moulin Rouge!. Gan ddilyn egwyddorion The Red Curtain Trilogy, seilir y ffilm ar chwedl Orpheus ac ar opera Giuseppe Verdi, La Traviata. Adrodda'r ffilm hanes bardd/ysgrifennwr Seisnig o'r enw Christian, sy'n cwympo mewn cariad gyda'r actores gabaret Satine sydd yn ddifrifol wael. Defnyddia'r ffilm leoliad cerddorol yr Ardal Montmartre ym Mharis, Ffrainc. Enwebwyd y ffilm am wyth o Wobrau'r Academi, yn cynnwys y Ffilm Orau, yr Actores Orau i Nicole Kidman, ac enillodd dwy Oscar: un am gyfarwyddo creadigol ac un am y gwisgoedd. Dyma oedd y sioe gerdd gyntaf i gael ei henwebu mewn 22 o flynyddoedd. Ffilmiwyd y ffilm yn Stiwdios Fox yn Sydney, Awstralia.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Baz Luhrmann |
Cynhyrchydd | Baz Luhrmann Fred Baron Martin Brown |
Ysgrifennwr | Baz Luhrmann Craig Pearce |
Serennu | Ewan McGregor Nicole Kidman Jim Broadbent Richard Roxburgh John Leguizamo Jacek Koman Caroline O'Connor |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | 20th Century Fox |
Dyddiad rhyddhau | 1 Mehefin, 2001 |
Amser rhedeg | 128 munud |
Gwlad | Deyrnas Unedig Awstralia Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.