Morgrugyn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Grŵp llwyddiannus iawn o bryfed yw morgrug. Mae 11,844 o rywogaethau wedi'u cofnodi ledled y byd, yn enwedig mewn hinsoddau poeth. Mae llawer o forgrug yn ffurfio cytrefi o filiynau o unigolion.
Morgrug | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Hymenoptera |
Is-urdd: | Apocrita |
Uwchdeulu: | Vespoidea |
Teulu: | Formicidae Latreille, 1809 |
Is-deuluoedd | |
Agroecomyrmecinae |
Mae morgrug yn bryfed cymdeithasol o'r teulu Formicidae ac, ynghyd â'r gwenyn meirch a gwenyn cysylltiedig, maent yn perthyn i'r urdd Hymenoptera. Mae morgrug yn ymddangos yn y cofnod ffosil ar draws y byd gan amrywio'n sylweddol yn ystod y cyfnod Cretasaidd Cynnar a'r Cretasaidd Diweddar, sy'n awgrymu tarddiad cynharach. Esblygodd morgrug gan arallgyfeirio ar ôl esblygiad a thwf planhigion blodeuol. Amcangyfrifir fod dros13,800 o 22,000 o rywogaethau wedi'u dosbarthu a'u cofnodi. Cant eu hadnabod yn hawdd drwy eu teimlyddion a'u canol main.
Mae morgrug yn ffurfio cytrefi, neu nythod, sy'n amrywio o ran maint o ychydig ddwsin o unigolion rheibus sy'n byw mewn ceudodau naturiol bach i gytrefi hynod o drefnus a all gynnwys miliynau o unigolion. Mae'r cytrefi mwy yma'n cynnwys mathau amrywiol o fenywod diffrwyth, heb adenydd, y rhan fwyaf ohonynt yn weithwyr, yn ogystal â milwyr a grwpiau arbenigol eraill. Mae gan bron bob nythfa o forgrug hefyd rai gwrywod ffrwythlon o'r enw "gwenyn gormesol" (Sa: drones) ac un neu fwy o fenywod ffrwythlon a elwir yn "freninesau". Disgrifir y cytrefi fel uwch-organebau oherwydd ymddengys bod y morgrug yn gweithredu fel un, gan gydweithio i gynnal y nythfa.
Mae morgrug wedi gwladychu bron pob rhan o'r Ddaear. Yr unig leoedd sydd heb forgrug cynhenid yw'r Antarctig ac ychydig o ynysoedd anghysbell. Mae morgrug yn ffynnu yn y rhan fwyaf o ecosystemau a gallant ffurfio 15-25% o fio-màs anifeiliaid daearol. Mae eu llwyddiant mewn cymaint o amgylcheddau wedi'i briodoli i'w rhinweddau cymdeithasol, a'u gallu i addasu cynefinoedd, defnyddio adnoddau lleol, ac amddiffyn eu hunain. Mae eu cyd-esblygiad hir â rhywogaethau eraill wedi arwain at berthnasoedd dynwaredol, parasitig, a chydfuddiannol.
Mae gan gymdeithasau morgrug raniad llafur ac mae'r unigolion yn cyfathrebu a'i gilydd gan ddatrys problemau cymhleth. Mae'r tebygrwydd hyn â chymdeithasau dynol wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn bwnc astudio ers tro: gw. yr adran Prysurdeb diarhebol, isod. Defnyddir morgrug mewn bwyd, mewn meddyginiaeth, a defodau. Mae rhai rhywogaethau'n cael eu gwerthfawrogi yn eu rôl fel cyfryngau biolegol i reoli plâu. Gall eu gallu i ymelwa ar adnoddau ddod â morgrug i wrthdaro â bodau dynol, fodd bynnag, gan y gallant niweidio cnydau a thanseilio adeiladau. Mae rhai rhywogaethau, fel y morgrug tân coch (Solenopsis invicta), yn cael eu hystyried yn rhywogaethau ymosodol, ymledol, gan sefydlu eu hunain mewn ardaloedd lle maent wedi'u cyflwyno'n ddamweiniol.