![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c5/Glacial_landscape.svg/langcy-640px-Glacial_landscape.svg.png&w=640&q=50)
Geomorffoleg
astudiaeth wyddonol o dirweddau / From Wikipedia, the free encyclopedia
Astudiaeth o ffurf y ddaear yw geomorffoleg, yn enwedig ei wyneb. Mae'n un disgyblaeth o fewn daearyddiaeth ffisegol sy'n ceisio esbonio sut mae'r ffurfiau ffisegol hyn yn datblygu nawr ac yn y gorffennol. Mae daeareg yn gymorth i esbonio ffurf wyneb y ddaear hefyd, ac erydiad a gwaddodiad yw'r ffactorau pennaf. Oherwydd ein gwybodaeth gynyddol am wyneb y lleuad a'r blaned Mawrth, mae morffoleg erbyn hyn yn cwmpasu ffurf y cyrff hyn hefyd.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | cangen o ddaeareg, cangen o ddaearyddiaeth ![]() |
---|---|
Math | daearyddiaeth ffisegol, disgyblaeth academaidd ![]() |
Rhan o | geomorffoleg a regolith ac esblygiad tirwedd ![]() |
Yn cynnwys | lithosffer ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9e/Cono_de_Arita%2C_Salar_de_Arizaro_%28Argentina%29.jpg/640px-Cono_de_Arita%2C_Salar_de_Arizaro_%28Argentina%29.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1c/Earth_surface_NGDC_2000.jpg/640px-Earth_surface_NGDC_2000.jpg)
Er fod morffoleg yn golygu astudiaeth ffurf tirwedd cyffredin fel ystumiau afon, ffurf bryniau neu baeau, mae'n anodd esbonio hanes y ffurfiad. Dros y milenia newidiwyd siap y tirffurfiau hyn, yn bennaf gan rym blatiau tectonig ynghyd â chyfuniad o brosesau megis effaith dŵr, gwynt, iâ, tân, organebau byw, a newidiadau drwy adweithiau cemegol sy'n gyfrifol am ffurfio pridd a deunyddiau eraill. Cafodd yr hinsawdd, felly, gryn effaith ar geomorffoleg y Ddaear, a chafodd dyn hefyd ddylanwad, yn enwedig ers y Chwyldro Diwydiannol. O ran geoleg, yr effaith fwyaf ar y Ddaear yw'r grymoedd a ffurfiodd y mynyddoedd, ffurfio llosgfynyddoedd, newidiadau isostatig i'r tirffurfiau a chreu basnau gwaddodol tyfn ble mae wyneb y Ddaear yn gostwng ac yn cael ei lenwi gan ddeunydd o rannau eraill. Mae wyneb y Ddaear, felly, yn groesdoriad o weithredoedd hinsoddol, hydrolegol a biolegol.