![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/21/Downtown_Mombasa.jpg/640px-Downtown_Mombasa.jpg&w=640&q=50)
Mombasa
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ail ddinas Cenia a phrifddinas talaith Pwani yw Mombasa (weithiau Mombassa). Saif ar yr arfordir, yn ne-ddwyrain Cenia. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 665,018, amcangyfrifir ei fod tua 900,000 erbyn 2009.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
![]() | |
Math | dinas, dinas â phorthladd, dinas fawr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,200,000, 1,208,333 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Mombasa ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 294.7 ±0.1 km² ![]() |
Uwch y môr | 50 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 4.05°S 39.67°E ![]() |
![]() | |
Cau
Saif y ddinas ar ynys, er bod rhai o'r maestrefi ar y tir mawr. Mae'n borthladd pwysig, a hefyd yn ganolfan i dwristiaeth. Nid oes sicrwydd pa bryd y sefydlwyd y ddinas, ond nododd Al-Idrisi yn y 12g ei bod yn ganolfan fasnach bwysig. Galwodd y llynghesydd Tsineaidd Zheng He yma tua 1415, a Vasco da Gama yn 1498.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/63/Mombasa-MarketHall.jpg/320px-Mombasa-MarketHall.jpg)