![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/85/Molokai.jpg/640px-Molokai.jpg&w=640&q=50)
Molokaʻi
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ynys yn ynysfor Hawäi yw Molokaʻi neu Molokai, sydd hefyd yn dwyn yr enw "Yr Ynys Gyfeillfar". Mae'n 61 wrth 16 km (38 wrth 10 milltir) o faint ar ei hiraf ac mae ganddi 673.4 km2 (260 millitir sgwâr) o dir y gellir ei ddefnyddio, sy'n golgyu mai hi yw'r bumed ynys fwyaf o brif ynysoedd Hawäi a'r 27ain ynys fwyf yn yr Unol Daleithiau. Saif i'r dwyrain o Oʻahu ar draws 40 km (25 milltir) Sianel Kaiwi ac i'r gogledd o Lānaʻi a Sianel Kalohi rhyngddynt.
![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Prifddinas | Kaunakakai ![]() |
Poblogaeth | 7,345 ![]() |
Cylchfa amser | UTC−10:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Hawaii ![]() |
Sir | Maui County, Kalawao County ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 260 mi² ![]() |
Uwch y môr | 4,961 troedfedd ![]() |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel ![]() |
Cyfesurynnau | 21.135°N 157.01°W ![]() |
Hyd | 60 cilometr ![]() |
![]() | |
Mae'r ynys yn adnabyddus am dyfu pinafalau, ffermio gwartheg, twristiaeth a'r datblygiadau gan Molokai Ranch ar y rhan fwyaf o'r ynys. Gall y trigolion ac ymwelwyr i ben gorllewinol Molokaʻi weld goleuadau Honolulu ar Oʻahu gyda'r nos a Lānaʻi a Maui gyfagos o unrhyw bwynt ar hyd arfordir deheuol yr ynys. Yn Swydd Kalawao ar Benrhyn Kalaupapa ar arfordir y gogledd, sefydlwyd aneddiadau ym 1866 i drin pobl wahanglwyfus mewn cwarantin a pharhaodd hyn tan 1969. Parc Hanesyddol Cenedlaethol Kalaupapa sydd yn gyfrifol am warchod y swydd a'r ardal gyfan erbyn hyn.