Molière
dramodydd ac actor o Ffrainc (1622-1673) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dramodydd o Ffrancwr oedd Jean-Baptiste Poquelin, neu Molière (15 Ionawr, 1622 - 17 Chwefror, 1673).
Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...
Molière | |
---|---|
Ffugenw | Molière |
Ganwyd | Jean-Baptiste Poquelin 15 Ionawr 1622 Paris |
Bedyddiwyd | 15 Ionawr 1622 |
Bu farw | 17 Chwefror 1673 Paris |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, actor llwyfan, bardd, dychanwr, cyfarwyddwr theatr, dramodydd, ysgrifennwr, rheolwr theatr |
Adnabyddus am | Scapin the Schemer, Le Bourgeois gentilhomme, Y Claf Diglefyd, The Misanthrope, Tartuffe, Dom Juan, The School for Wives, The Imaginary Cuckold, Psyché, Pastorale comique, Mélicerte, Monsieur de Pourceaugnac, The Blunderer, or the Counterplots, The School for Husbands, L'Impromptu de Versailles, The Miser, L'Amour médecin, Les Précieuses ridicules, Les Fâcheux, Les Femmes Savantes, Les amants magnifiques, Le Sicilien ou l'Amour peintre, Le Médecin volant, Le Médecin malgré lui, Marriage by Compulsion, Lovers' quarrels, Princess of Elis, La jalousie du barbouillé |
Arddull | comedi, ffars |
Prif ddylanwad | Plautus, commedia dell'arte |
Mudiad | clasuriaeth |
Tad | Jean Poquelin |
Priod | Armande Béjart |
Partner | Madeleine Béjart |
Plant | Esprit-Madeleine Poquelin |
llofnod | |
Cau
Cafodd ei eni ym Mharis. Bu'n teithio Ffrainc gyda'r actores Madeleine Béjart a'u cwmni, l'Illustre Théâtre am nifer o flynyddoedd. Ei ddrama olaf oedd Y Claf Diglefyd (Le Malade imaginaire), a berfformiwyd gyntaf yn gynnar yn 1673. Cymerwyd yr awdur yn wael yn ystod y pedwerydd perfformiad, ar 17 Chwefror, 1673, a bu farw yn fuan wedyn.
Cyfeirir at y Ffrangeg, ac yn benodol Ffrangeg coeth, weithiau fel la langue de Molière (iaith Molière), yn yr un ffordd ag y cyfeirir at y Gymraeg fel iaith Dafydd ap Gwilym, neu'r Eidaleg fel iaith Dante.