From Wikipedia, the free encyclopedia
Cerddor Americanaidd a aned yn Japan yw Midori Gotō (ganwyd 25 Hydref 1971) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel fiolinydd, athro celf ac awdur.
Midori Gotō | |
---|---|
Ganwyd | 25 Hydref 1971 Osaka |
Man preswyl | Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | fiolinydd |
Cyflogwr |
|
Arddull | cerddoriaeth glasurol |
Gwobr/au | Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
Gwefan | http://www.gotomidori.com |
Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf gyda cherddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd yn 11 oed, fel unawdydd gwadd annisgwyl yng Ngala Nos Galan, 1982. Yn 1986 gwnaeth ei pherfformiad cyntaf yng Ngwyl Gerdd Tanglewood gyda Leonard Bernstein yn arwain ei gyfansoddiad-cerdd ei hun, ac ymddangosodd fel penawdau tudalen flaen The New York Times. Dros nos, daeth Midori yn blentyn enwog, ac yn un o feiolinwyr mwyaf blaenllaw'r byd.[1][2][3]
Sefydlodd gorff o'r enw Midori and Friends i ddod ag addysg cerdd i bobl ifanc cymunedau tlawd Dinas Efrog Newydd a Siapan; Mae Midori and Friends bellach wedi datblygu'n bedwar sefydliad gwahanol gydag effaith fyd-eang. Apwyntiwyd hi yn 'Negesydd heddwch' y Cenhedloedd Unedig yn 2009.
Fe'i ganed yn Osaka ar 25 Hydref 1971. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Ysgol Juilliard, Efrog Newydd a Phrifysgol Efrog Newydd. Gollyngodd gyfenw'i thad o'i henw llwyfan ar ôl ysgariad ei rhieni yn 1983, gan berfformio o dan yr enw Mi Dori i ddechrau, ac yna defnyddiodd y gair unigol Midori.[4][5][6][7] [3] then deciding on the single word Midori.[2][8] Peiriannydd oedd ei thad a fiolinydd oedd ei mam. Roedd Setsu yn mynd â Midori ifanc yn rheolaidd i ymarferion y gerddorfa, lle roedd y plentyn bach yn cysgu yn rhes flaen yr awditoriwm tra roedd ei mam yn ymarfer ar y llwyfan. Un diwrnod, clywodd Setsu y Midori dwy flwydd oed yn canu concerto gan Johann Sebastian Bach a oedd wedi cael ei ganu iddi ddeuddydd ynghynt.
Yn 2000, graddiodd Midori magna cum laude o Ysgol Gallatin ym Mhrifysgol Efrog Newydd gyda gradd baglor mewn seicoleg ac astudiaethau rhyw, gan gwblhau'r radd mewn pum mlynedd tra'n parhau i berfformio mewn cyngherddau. Yn ddiweddarach enillodd radd meistr mewn seicoleg gan NYU yn 2005.
Yn 2004, cafodd Midori ei henwi yn athro Ysgol Gerdd Thornton Prifysgol Southern California lle mae'n Gadeirydd y Jascha Heifetz. Cyhoeddwyd ei chofiant Einfach Midori ("Simply Midori") hefyd yn yr Almaen yn 2004.
Bu'n aelod o Academi Celf a Gwyddoniaeth America am rai blynyddoedd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.