Math o ymbelydredd electromagnetig yw microdon. Fel arfer mae gan microdonnau donfeddi rhwng tua 30 cm ac 1 mm, sy'n cyfateb i amleddau rhwng 1 GHz a 300 GHz. Fodd bynnag, nid yw'r amrediad hwn wedi'i ddiffinio'n llym: mae meysydd astudio gwahanol yn defnyddio eu ffiniau eu hunain i wahaniaethu rhwng microdonnau ac isgoch pell, ymbelydredd terahertz, a thonnau radio UHF.[1][2][3][4][5][6]
Math | ton electromagnetig |
---|---|
Rhan o | sbectrwm electromagnetig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae microdonnau'n dilyn llwybr sy'n debyg i donnau golau, hynny yw llinell syth. Yn wahanol i donnau radio ag amledd is, nid ydynt yn diffreithio o amgylch bryniau, nid ydynt yn dilyn wyneb y ddaear, ac nid ydynt yn adlewyrchu o'r ionosffer. Felly pan ddefnyddir microdonnau fel cyfrwng cyfathrebu, mae'r pellter y maent yn ei deithio yn cael ei gyfyngu gan y gorwel gweledol (tua 40 milltir, 64 km). Ar amleddau uchel, maent yn cael eu hamsugno gan nwyon yn yr atmosffer, gan gyfyngu ar bellteroedd cyfathrebu ymarferol i tua 1 km.
Defnyddir microdonnau'n helaeth mewn technoleg fodern, er enghraifft mewn radar, radio-seryddiaeth, rhwydweithiau cyfnewid radio microdon, cysylltiadau cyfathrebu pwynt-i-bwynt, rhwydweithiau diwifr, cyfathrebu lloeren, triniaethau meddygol, gwresogi diwydiannol, ac ar gyfer coginio bwyd mewn poptai microdon.[7]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.